Picture of a smiling man with a bald head, a white shirt with green and orange stripes

Cynhyrchir y wefan hon gan Dr David Clubb er budd hyrwyddo tryloywder a llywodraethu da ar lefel Bwrdd yng Nghymru.

Mae David wedi gwasanaethu fel aelod o fwrdd, ymddiriedolwr a chadeirydd ar gyfer amrywiaeth o sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. Dechreuodd ei brofiad ym maes llywodraethu pan ddaeth yn ymddiriedolwr i Sunseed Desert Technology yn 2005. Ar hyn o bryd, ef yw Cadeirydd Partneriaeth Dalgylch Taf – swydd a gymerodd ar ôl treulio pum mlynedd yn Gadeirydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Mae wedi darparu hyfforddiant i fwy na 50 o aelodau presennol neu ddarpar aelodau Bwrdd yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru.

Cysylltwch â fi os hoffech weithio gyda fi i gefnogi llywodraethu yn eich sefydliad.