Awgrymiadau ar gyfer llwyddiant
Llwybr i aelodaeth y Bwrdd
Bydd llwybr pawb i aelodaeth Bwrdd yn dilyn llwybrau gwahanol. Does dim ffordd iawn, a does dim ffordd anghywir chwaith.
Fodd bynnag, mae’n annhebygol y byddwch yn llwyddo mewn cais i ymuno â bwrdd sefydliad mawr heb allu dangos rhywfaint o brofiad o lywodraethu.
Dyna pam y gall fod yn ddefnyddiol cael rhyw syniad am eich llwybr i aelodaeth Bwrdd.
Er enghraifft, gall cymryd rhan mewn rôl lywodraethu fel gwirfoddolwr mewn sefydliad anghorfforedig (fel clwb chwaraeon lleol, grŵp diddordeb lleol ac ati) ddarparu profiad gwerthfawr tuag at rôl mewn cwmni cyfyngedig, sefydliad cyhoeddus neu elusen.
Rhai camau y gallech fod am eu hystyried os ydych yn gynnar yn eich gyrfa Bwrdd:
- Chwiliwch am sefydliadau bach lleol sy’n gweithio mewn sectorau neu gyda phynciau sy’n ddiddorol i chi. Maent yn aml yn hapus iawn i dderbyn gwirfoddolwyr i helpu i reoli eu gwaith. Nid yw sefydliadau anghorfforedig wedi’u rhwymo gan yr un rheolau sy’n llywodraethu busnesau cofrestredig, elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus, ac nid ydynt fel arfer yn delio â chyllidebau mawr. Mae hyn yn lleihau effaith
- Os oes gennych chi ddiddordeb mewn pobl ifanc neu addysg, ystyriwch wneud cais i ddod yn Llywodraethwr mewn ysgol leol . Dylech allu cael mynediad at hyfforddiant, ac yn aml nid oes angen profiad llywodraethu blaenorol
- Mae sefydliadau trydydd sector yn amrywio’n fawr o ran maint a chymhlethdod, ond yn aml maent yn lleoedd hynod werthfawr i ennill profiad
- Yn aml mae gan sefydliadau mawr Bwyllgorau sy’n croesawu cyfranogiad gan aelodau o’r gymuned sydd â sgiliau arbenigol mewn maes perthnasol, fel AD, cyllid neu dechnoleg.
- Bydd Byrddau cyhoeddus a reoleiddir, neu gwmnïau sy’n ceisio Cyfarwyddwyr anweithredol, fel arfer yn disgwyl lefel flaenorol o wybodaeth a phrofiad mewn llywodraethu ar gyfer penodiad.
Dod o hyd i fentor
Gallai mentor fod yn ffordd ddefnyddiol o gael mewnwelediad o’u profiad. Efallai y byddan nhw hefyd yn gallu defnyddio eu rhwydweithiau o gysylltiadau i gefnogi eich ymdrechion i ddod o hyd i swydd briodol ar y Bwrdd.
Dewiswch rywun rydych chi’n ei edmygu yn eich diwydiant neu mewn diwydiant yr hoffech chi fod ynddo. Nid oes rhaid i hwn fod yn rhywun rydych chi’n ei adnabod. Astudiwch eu proffil proffesiynol a chymerwch sylw o’u llwybr gyrfa. Ysgrifennwch yr hyn rydych chi’n ei edmygu amdanyn nhw a pham rydych chi eisiau bod yn debyg iddyn nhw yn broffesiynol.
Nid ydych chi eisiau mentoriaid sy’n dweud wrthych chi beth i’w wneud neu beth wnaethon nhw. Er y dylai eich mentoriaid gynnig arweiniad, dylent hefyd roi lle a rhyddid i chi gerfio eich llwybr eich hun. Os na chewch eich herio gan fentor yna efallai ei bod yn amser symud ymlaen.