Cod ymddygiad enghreifftiol ar gyfer cyrff cyhoeddus yng Nghymru
Cyfwlyniad
- Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob deiliad swydd gyhoeddus weithio i’r safonau personol a phroffesiynol uchaf. I gefnogi hyn, mae’n ofynnol i bob aelod o fyrddau cyrff cyhoeddus yng Nghymru gydymffurfio â’r egwyddorion a nodir yn y Cod Ymddygiad hwn. Ystyrir peidio â chydymffurfio â’r Cod hwn yn dorri telerau ac amodau eich penodiad.
- Gellir terfynu eich penodiad fel aelod o’r bwrdd os na fyddwch yn cyflawni eich dyletswyddau i’r safonau priodol neu os penderfynir bod eich ymddygiad yn golygu nad ydych bellach yn berson addas i ddal swydd gyhoeddus.
- Amlinellir rôl a chyfrifoldebau aelodau’r bwrdd yn y Ddogfen Fframwaith a gytunwyd rhwng Llywodraeth Cymru a [enw’r Corff] ar [dyddiad] tra bod telerau ac amodau gwasanaeth penodol wedi’u nodi yn llythyrau penodi unigol aelodau’r bwrdd.
Egwyddorion allweddol bywyd cyhoeddus
- Fel aelod o’r bwrdd, rhaid i’ch ymddygiad, eich gweithredoedd a’r penderfyniadau a wnewch fod yn gwbl gyson â’r egwyddorion a nodir yn y Cod Ymddygiad hwn. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn gyfarwydd â holl ddarpariaethau perthnasol y cod hwn, ac yn cydymffurfio â nhw.
- Y prif egwyddorion y mae’r Cod Ymddygiad hwn yn seiliedig arnynt yw Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus. Mae’r rhain ynghlwm yn Atodiad 1. Mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wedi’u nodi yn y Rhaglen Lywodraethu ac mae egwyddorion rheoli arian cyhoeddus wedi’u hegluro yn ‘Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru’ Llywodraeth Cymru.
Ymddygiad cyffredinol
Fel aelod o’r bwrdd, disgwylir i chi:
- chwarae rhan lawn a gweithredol yng ngwaith y corff a chyflawni eich dyletswyddau a’ch cyfrifoldebau’n gydwybodol a gweithredu, bob amser, mewn ffydd dda ac er budd gorau’r corff;
- delio â’r cyhoedd a’u materion yn deg, yn effeithlon, yn brydlon, yn effeithiol ac yn sensitif ac hyd eithaf eich gallu;
- cydymffurfio ag unrhyw ofynion statudol neu weinyddol sy’n ymwneud â’ch swydd; a
- pharchu egwyddorion gwneud penderfyniadau ar y cyd a chyfrifoldeb corfforaethol.
Rhaid i chi beidio â:
- Gweithredu mewn ffordd sy’n ffafrio unigolion neu fuddiannau penodol yn anghyfiawn neu’n gwahaniaethu’n annheg yn eu herbyn; na
- Defnyddio – neu geisio defnyddio – cyfle gwasanaeth cyhoeddus i hyrwyddo eich buddiannau personol neu fuddiannau unrhyw berson, cwmni, busnes neu sefydliad cysylltiedig arall.
Defnyddio Arian Cyhoeddus
- Mae gennych ddyletswydd i ddiogelu arian cyhoeddus – a dylid ystyried, at y diben hwn, fod hyn yn cynnwys pob math o dderbyniadau o ffioedd, taliadau a ffynonellau eraill – ac i sicrhau bod asedau sydd wedi cael eu hariannu’n gyhoeddus yn cael eu cadw’n briodol.
- Rhaid i chi gymryd camau priodol i sicrhau bod y corff bob amser yn defnyddio ei adnoddau mor economaidd, effeithlon ac effeithiol â phosibl, gan roi sylw llawn i’r darpariaethau statudol perthnasol ac i’r canllawiau perthnasol yn Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.
- Rydych chi’n gyfrifol am sicrhau nad yw’r corff yn mynd y tu hwnt i’w bwerau na’i swyddogaethau, boed wedi’u diffinio mewn statud neu fel arall, neu drwy unrhyw gyfyngiadau ar ei awdurdod i ysgwyddo gwariant.
Lwfansau
- Rhaid i chi gydymffurfio â’r rheolau a osodwyd gan fwrdd y corff ynghylch tâl, lwfansau a threuliau. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau cydymffurfiaeth â holl ofynion perthnasol Cyllid a Thollau EM ynghylch taliadau, gan gynnwys treuliau.
Defnyddio adnoddau swyddogol
- Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio adnoddau swyddogol – cyfleusterau, offer, deunydd ysgrifennu, teleffoni, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a gwasanaethau eraill, er enghraifft – er budd personol neu at ddibenion gwleidyddol. Rhaid i ddefnyddio adnoddau o’r fath fod yn unol â rheolau’r corff ar eu defnydd.
Defnyddio gwybodaeth swyddogol
- Rhaid i chi beidio â defnyddio unrhyw wybodaeth a gewch o’ch gwaith fel aelod o fwrdd y corff er elw preifat neu unrhyw fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol arall, ac ni ddylech eich rhoi eich hun yn agored i amheuaeth o wneud hynny. Ni ddylech, heb dderbyn awdurdod priodol, ddatgelu unrhyw wybodaeth sy’n gyfrinachol ei natur neu a ddarperir yn gyfrinachol i chi. Mae’r ddyletswydd hon yn parhau i fod yn berthnasol hyd yn oed ar ôl i chi adael y bwrdd.
Lletygarwch, rhoddion a buddion eraill
- Rhaid i chi beidio â derbyn unrhyw rodd, lletygarwch na budd o unrhyw fath a allai gael ei weld yn peryglu eich barn bersonol neu’ch uniondeb neu’n dylanwadu arnoch i ddangos ffafr neu anffafriaeth i unrhyw berson neu sefydliad. Ni ddylech ychwaith adael eich hun yn agored i’r cyhuddiad y gallech fod wedi cael eich dylanwadu felly. Os anfonir rhodd atoch yr ydych yn teimlo na allwch ei dychwelyd, neu os cynigir rhodd neu letygarwch i chi mewn amgylchiadau lle byddai’n achosi embaras neu dramgwydd (i chi neu’r rhoddwr neu eraill sy’n bresennol) pe byddech yn ei wrthod, dylech gofnodi ei dderbyn yn ysgrifenedig ar unwaith yn y gofrestr gyhoeddus o roddion a gedwir gan y corff at y diben hwnnw.
Gweithgaredd gwleidyddol
Yn eich rôl gyhoeddus rhaid i chi ymatal rhag pob gweithgaredd gwleidyddol dadleuol a bod – a chael eich gweld felly – yn wleidyddol
- Cyflwyniad
- Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i bob deiliad swydd gyhoeddus weithio i’r safonau personol a phroffesiynol uchaf. I gefnogi hyn, mae’n ofynnol i bob aelod o fyrddau cyrff cyhoeddus yng Nghymru gydymffurfio â’r egwyddorion a nodir yn y Cod Ymddygiad hwn. Ystyrir peidio â chydymffurfio â’r Cod hwn yn dorri telerau ac amodau eich penodiad.
Gellir terfynu eich penodiad fel aelod o’r bwrdd os na fyddwch yn cyflawni eich dyletswyddau i’r safonau priodol neu os penderfynir bod eich ymddygiad yn golygu nad ydych bellach yn berson addas i ddal swydd gyhoeddus.
Amlinellir rôl a chyfrifoldebau aelodau’r bwrdd yn y Ddogfen Fframwaith a gytunwyd rhwng Llywodraeth Cymru a [enw’r Corff] ar [dyddiad] tra bod telerau ac amodau gwasanaeth penodol wedi’u nodi yn llythyrau penodi unigol aelodau’r bwrdd. - Egwyddorion allweddol bywyd cyhoeddus
Fel aelod o’r bwrdd, rhaid i’ch ymddygiad, eich gweithredoedd a’r penderfyniadau a wnewch fod yn gwbl gyson â’r egwyddorion a nodir yn y Cod Ymddygiad hwn. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn gyfarwydd â holl ddarpariaethau perthnasol y cod hwn, ac yn cydymffurfio â nhw.
Y prif egwyddorion y mae’r Cod Ymddygiad hwn yn seiliedig arnynt yw Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus. Mae’r rhain ynghlwm yn Atodiad 1. Mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wedi’u nodi yn y Rhaglen Lywodraethu ac mae egwyddorion rheoli arian cyhoeddus wedi’u hegluro yn ‘Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru’ Llywodraeth Cymru. - Ymddygiad cyffredinol
Fel aelod o’r bwrdd, disgwylir i chi:
chwarae rhan lawn a gweithredol yng ngwaith y corff a chyflawni eich dyletswyddau a’ch cyfrifoldebau’n gydwybodol a gweithredu, bob amser, mewn ffydd dda ac er budd gorau’r corff;
delio â’r cyhoedd a’u materion yn deg, yn effeithlon, yn brydlon, yn effeithiol ac yn sensitif ac hyd eithaf eich gallu;
cydymffurfio ag unrhyw ofynion statudol neu weinyddol sy’n ymwneud â’ch swydd; a
pharchu egwyddorion gwneud penderfyniadau ar y cyd a chyfrifoldeb corfforaethol.
Rhaid i chi beidio â:
Gweithredu mewn ffordd sy’n ffafrio unigolion neu fuddiannau penodol yn anghyfiawn neu’n gwahaniaethu’n annheg yn eu herbyn; na
Defnyddio – neu geisio defnyddio – cyfle gwasanaeth cyhoeddus i hyrwyddo eich buddiannau personol neu fuddiannau unrhyw berson, cwmni, busnes neu sefydliad cysylltiedig arall.
Defnyddio Arian Cyhoeddus
Mae gennych ddyletswydd i ddiogelu arian cyhoeddus – a dylid ystyried, at y diben hwn, fod hyn yn cynnwys pob math o dderbyniadau o ffioedd, taliadau a ffynonellau eraill – ac i sicrhau bod asedau sydd wedi cael eu hariannu’n gyhoeddus yn cael eu cadw’n briodol.
Rhaid i chi gymryd camau priodol i sicrhau bod y corff bob amser yn defnyddio ei adnoddau mor economaidd, effeithlon ac effeithiol â phosibl, gan roi sylw llawn i’r darpariaethau statudol perthnasol ac i’r canllawiau perthnasol yn Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.
Rydych chi’n gyfrifol am sicrhau nad yw’r corff yn mynd y tu hwnt i’w bwerau na’i swyddogaethau, boed wedi’u diffinio mewn statud neu fel arall, neu drwy unrhyw gyfyngiadau ar ei awdurdod i ysgwyddo gwariant.
Lwfansau
Rhaid i chi gydymffurfio â’r rheolau a osodwyd gan fwrdd y corff ynghylch tâl, lwfansau a threuliau. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau cydymffurfiaeth â holl ofynion perthnasol Cyllid a Thollau EM ynghylch taliadau, gan gynnwys treuliau.
Defnyddio adnoddau swyddogol
Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio adnoddau swyddogol – cyfleusterau, offer, deunydd ysgrifennu, teleffoni, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a gwasanaethau eraill, er enghraifft – er budd personol neu at ddibenion gwleidyddol. Rhaid i ddefnyddio adnoddau o’r fath fod yn unol â rheolau’r corff ar eu defnydd.
Defnyddio gwybodaeth swyddogol
Rhaid i chi beidio â defnyddio unrhyw wybodaeth a gewch o’ch gwaith fel aelod o fwrdd y corff er elw preifat neu unrhyw fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol arall, ac ni ddylech eich rhoi eich hun yn agored i amheuaeth o wneud hynny. Ni ddylech, heb dderbyn awdurdod priodol, ddatgelu unrhyw wybodaeth sy’n gyfrinachol ei natur neu a ddarperir yn gyfrinachol i chi. Mae’r ddyletswydd hon yn parhau i fod yn berthnasol hyd yn oed ar ôl i chi adael y bwrdd.
Lletygarwch, rhoddion a buddion eraill
Rhaid i chi beidio â derbyn unrhyw rodd, lletygarwch na budd o unrhyw fath a allai gael ei weld yn peryglu eich barn bersonol neu’ch uniondeb neu’n dylanwadu arnoch i ddangos ffafr neu anffafriaeth i unrhyw berson neu sefydliad. Ni ddylech ychwaith adael eich hun yn agored i’r cyhuddiad y gallech fod wedi cael eich dylanwadu felly. Os anfonir rhodd atoch yr ydych yn teimlo na allwch ei dychwelyd, neu os cynigir rhodd neu letygarwch i chi mewn amgylchiadau lle byddai’n achosi embaras neu dramgwydd (i chi neu’r rhoddwr neu eraill sy’n bresennol) pe byddech yn ei wrthod, dylech gofnodi ei dderbyn yn ysgrifenedig ar unwaith yn y gofrestr gyhoeddus o roddion a gedwir gan y corff at y diben hwnnw.
Gweithgaredd gwleidyddol
Yn eich rôl gyhoeddus rhaid i chi ymatal rhag pob gweithgaredd gwleidyddol dadleuol a bod – a chael eich gweld felly – yn wleidyddol